Ideas behind the work

Syniadau tu ôl i'r gwaith

Mae fy mheintiadau yn bodoli rhywle rhwng realiti a ffantasi ac wedi eu hysbrydoli gan fynyddoedd trawiadol Eryri. Maent yn gyfuniad o lefydd penodol a llefydd dychmygol, a mae naws arallfydol a hudol iddynt.

Mae’r paentiadau wedi eu gosod yn y gorffennol pell - heb lwybrau, heb beilonau na phresenoldeb dynioliaeth. Ceisiaf greu naws heddychlon a thawel mewn byd nas cyffyrddwyd gan weithredoedd Dyn.

Mae nhw’n dirluniau gobeithiol mewn byd sydd bellach mor ansicr ac yn lle di-gariad ar adegau. Pwysleisiaf y pwysigrwydd i beidio â chymryd harddwch ein tirlun yn ganiataol, ac i amddiffyn byd natur ar bob cyfrif.

Mae’r cysgodion yn awgrymu ein bod ni bron yn y tywyllwch gyda phroblemau’r byd cyfoes yn ymddangos yn eithaf difrifol a bod y frwydr rhwng ni a’r byd wedi cyrraedd pwynt tyngedfennol. Ond, gwelir y goleuni yn treiddio’n bwerus drwy’r awyr, sy’n cynrychioli y gobaith ein bod ni fel pobl am agor ein llygaid, a chymryd gofal o’r byd a’n gilydd cyn iddi fynd yn rhy hwyr.

Mae dringo i gopa’r mynydd yn gallu bod yn anodd, fel llawer o bethau sy’n amlygu eu hunain mewn bywyd. Mae’r tywyllwch yn fy mhaentiadau yn cyfleu y pethau anodd a’r pryderon yma, ond mae cyferbyniad cryf y lliwiau ysgafn yn dangos fod goleuni tu ôl i bob cwmwl a niwl.

Rwy’n cyfuno dau dechneg i gydfynd â‘r elfen o ddeuoliaeth sydd i’r lluniau, sef printio leino a pheintio gyda brws. Mae’r gwead creigiog sy’n cael ei greu gan y leino yn cyferbynnu gyda meddalwch y brws yn y cefndir.

Mae tirluniau yn llefydd pur a hudolus. Rwyn gobeithio bod yr arddangosfa yn rhywle i bobol gael dianc iddo o’r byd sydd ohoni heddiw ac hefyd yn dod a ni’n nes at y rhai hynny sydd wedi ein gadael ni. Gobeithiaf ysbrydoli’r gwylwyr i werthfawrogi ein tirlun unigryw ag i weld y goleuni yn yr hwyr.

 

 

 

Back to blog